Amdanaf i

Rwyf wedi cynnwys gwybodaeth broffesiynol i isod a fy mhrofiad gwaith:

Manylion personol.

Cyfeiriad:        34 Ffordd y Gadeirlan,
                        Baglan moors,
                        Port Talbot.
SA12 7DZ.


Manylion cysylltu:       Rhif ffôn – 01639 812720
                                    Ffôn symudol – 07875358029
                                    E-bost – arwel762@btinternet.com

Cymwysterau awyr agored.

M.L.A.                                                                                      Camre Cymru
(Mountain leader award - Haf)

S.P.A.                                                                                       W.L.A. Play
(Single Pitch Award)

S.R.T.
(Swif Water Rescue)                                                               Tryweryn

Cymorth Cyntaf Alltaith (level 2)                                            Wers

UKCC level 1 Hyffordwr Caiac a Chanw                                 Llandysul Paddlers

Achyb bywyd y mor                                                                 NaRS

Dros y 7 mlynedd diwethaf rwyf wedi ymrymuso fy hun gyda’r gallu a’r sgiliau priodol er mwyn medru darparu gweithgareddau awyr agored ac anturus ar gyfer grwpiau o wahanol oedrannau a chefndirioedd. Mae fy mhrofiad yn deillio o rychwant eang o agweddau o’r diwydiant awyr agored, cychwynais fy ngyrfa yn y byd awyr agored trwy wirfoddoli i Fenter Iaith Abertawe, lle’r oeddwn yn cynorthwyo alldeithiau o dan brosiect Dug Caeredin a oedd ar y cyfan yn cynnwys cerdded a gwersylla, ynghyd a goruchwilio gweithgareddau megis syrffio, dringo ac arfordiro. O ganlyniad i’r elfennau o gerdded a gwersylla yn y gwaith trwy Fenter Iaith Abertawe roeddwn yn ddigon lwcus i gael fy nanfon ar gwrs hyfforddiant Arwain Mynydd. Rhoddodd hyn gychwyn i fy nghariad tuag at addysg awyr agored, roeddwn eisioes yn berson pobl gan gennyf sgiliau cyfarthrebu a rhyngbersonol gwych eisoes. Ond mae’r atyniad ychwanegol o fedru gweithio trwy gyfrwng mor wych a’r awyr agored, gan gael y cyfle i ddarparu profiadau anturus i’r bobl rwyn gweithio gyda, wedi fy ysgogi i gyrraedd a chyflawni hyd eithaf fy ngallu yn y maes hwn.

Er mwyn datblygu fy nealltwriaeth a fy mhrofiad o weithio yn y diwydiant awyr agored cefais waith fel hyfforddwr tymhorol gyda Call of the Wild, darparwyr gweithgareddau anturus preifat yn Ne Cymru. Trwy hyn cefai dipyn o brofiad o weithio gyda grwpiau o wahanol oedrannau a chefndiroedd trwy gyfrwng nifer helaeth o weithgareddau, gan gynnwys Arfordiro, Dringo, Cerdded Ceunant, Canwio a Cheiacio, Ogofau a Cherdded Bryniau; cefais ddigon o brofiad yn ystod y cyfnod hwn i gychwyn gweithio fel hyfforddwr llaw rydd, yn bennaf fel hyfforddwr Cerdded Ceunant ac Arfordiro; ar ben hwn roeddwn yn gweithio fel cyfarwyddwr dringo yn wal dringo Dynamic Rock ac roeddwn ffodus i gael achredu fel hyfforddwr BMC FUNdamentals . O ganlyniad i hyn cefais ddyfnder o brofiad mewn gwahanol sectorau o’r diwydiant. Er enghraifft, cychwynais weithio i sefydliad elusenol sef Fairbridge yng nghanol dinas Abertawe, hanfod y sefydliad yw darparu datblygiad personol ar gyfer pobl ifanc difreintiedig. Roedd hyn yn her fawr ond roedd y cyfle i fod rhan o ceisio tori y cylchred tangyflawni effeithio bywydau y bobl ifanc yma, yn waith hynod wobrwyol. Rwyf hefyd yn gweithio i nifer o wahanol ddarparwyr antur preifat, ac wrth gymharu’r profiadau hyn gyda’r profiadau wrth weithio i Fenter Iaith Abertawe a Fairbridge, roeddent y tipyn llai pleserus. Roedd peth o’r gwaith a wnes gyda Call of the Wild ar gyfer grwpiau o ysgolion, roedd y rol penodol o hwyluso a threfnu addysg awyr agored yn apelio yn fwy na darparu hwyl ar gyfer twristiaid oedd ar eu gwyliau(er rhaid dweud mi wneud fwynhau y gwaith yma hefyd). Yn y gorffenol rwyf wedi trefnu a ddarparu gyrsiau cymorth cyntaf; Dug Caeredin efydd, arian ac aur; hyffordi cyfarwyddwyr walydd dringo; profiad gwaith ar gyfer pobl ifanc fel cynorthwywyr i cyfarwyddwr gweithgareddau anturus ac rwyf gallu trefnu cyrsiau achyb bywyd y mor; gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers cryn amser un o fy uchelgeisiau oedd cwblhau gradd, y bwriad oedd dychwelyd i addysg ar ol teithio, ond nawr roedd gennyf nod pendant, fy mwriad i gwblhau gradd mewn Addysg Awyr Agored. Fe fum yn ffodus iawn o gael astudio ym Mhrifysgol Caerfyrddin tan 2009 yn gwneud gradd mewn addysg awyr agored gan barhau i weithio fel hyfforddwr llawrydd.

Rhoddodd y cyfuniad o weithio yn y diwydiant ac astudio’r pwnc hynod ddiddorol ddealltwriaeth a gwybodaeth arbennig i mi o’r sector addysg awyr agored.  Yn benodol y profiad amhrisiadwy  yr wyf wedi ei ddatblygu wrth weithio yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Rhossili, er fy mod yn gweithio fel hyfforddwr llawrydd i Gyngor Abertawe yn Rhossili yr wyf yn treulio y rhan fwyaf o fy amser. Fel aelod uwch o’r tim hyfforddi cefais y cyfrifoldeb o  ddatblygu sgiliau ac addysg y prentisiaid yn y ganolfan. Mae hwn wedi bod yn waith hynod bleserus i mi ac mae’r ffaith fy mod wedi chwarae rhan mor bwysig yn natblygiad hyfforddwyr y dyfodol yn un cyfoethog iawn. Yn ddiweddaraf rwyf hefyd wedi bod ffodus i cynyddu brofiad i ym maes ddringo a chael y  gyfrifoldeb uniongyrchol i ddatblygu gweithgareddau a chlwb dringo YMCA Port Talbot.
Mae hyn wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol, rwyf wedi astudio y gwahanol syniadau a ffilosoffiau dysg yn y brifysgol, elfennau rwyf wedi eu gweithredu fel darparwr a threfnydd gweithgareddau, nid yn unig wrth weithio gyda grwpiau preswyl sy’n ymweld a Rhossili ond yn ogystal yr aelodau iau o’r staff sydd yn edrych arnof fel mentor. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy yn fy natblygiad fel dysgwr effeithiol, sydd wedi fy arwain i fod yn hyfforddwr addysg awyr agored llawer mwy cyflawn fel arweinydd.

Mae bron ddau flwyddyn ers rwyf wedi cwblhau fy ngradd ac fe llwyddais sicrhau canlyniad 2:1. Mae gennyf SPA, ML(H), UKCC Level 1 Hyfforddwr Ceiacio a Chanwo, Surf lifeguard a thysysgrif Cymorth 1af ar Alldaith, mae gennyf drwydded yrru llawn a glan sy’n cynnwys category D1+E sy’n fy ngalluogi i yrru bws mini a throl. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac rwyn hollol o blaid datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg yn y diwydiant awyr agored a maes addysg awyr agored. Dyma phaham rwyn ffyddiog y baswn yn dda ar gyfer y swydd hwn. Mae gennyf lawer i’w gynnig i’r Fenter yn enwedig ym maes addysg awyr agored, ac mae’r syniad o diwtora fyfyrwyr i ddod yn hyfforddwyr cyfrwng Cymraeg y dyfodol yn apelio yn eithriadol.

Mae’n amlwg wrth y disgrifiad uchod mae gen i nwyd angrhedadwy o gryf ar gyfer pobeth awyr agored, ond yn bwysicaf rwyf yn fwy angerddol i rhannu profiadau amhrisiadwy gyda pobl sydd yn cynyddu dealldwriaeth am ei amgylcheddion naturiol a’r tirwedd sydd rhan o dywilliant nwh. Wrth gwrs mae’r Cymraeg fy nwyd arall, ac hyd yn oed dwi’n ymwybodol o’r anghenraid o cynnig ddarpariaeth gweithgareddau i’r cymuned gyfan, byddaf yn gwerthfawrogi’r cyfle i datblygu gweithgareddau â fydd cael effaith ar hyrwyddo’r iaith Cymraeg yn y gymuned.

Er mae’r Gymraeg yw fy iaith 1af, yn ystod fy arddegau roedd yn anodd iawn i mi ddefnyddio’r iaith i’w llawn botensial, nid oedd gan fy nghyfoedion lawer o ddiddordeb yn yr iaith felly fe ddatblygodd i fod yn rhywbeth nad oedd yn bwysig i mi chwaith. Rwyf wedi parhau i siarad yr iaith yn gyson ond nid yw safon fy Nghymraeg ysgrifenedig cystal ag yr hoffwn iddo fod, rwyf wedi gorfod cael cymorth i cyflawni’r CV hon o ran cywirdeb ieithyddol. Serch hynny credaf fod hyn yn fy ngwneud yn ymgeisydd cryfach am swyddi Gymraeg gan fy mod eisiau newid y syfellfaoedd a olygodd y bu i mi bron golli fy iaith. Rwy’n angerddol o blaid normaleiddio defnydd o’r iaith Gymraeg ymysg ieuenctid heddiw a’r dyfodol gan arddangos cynhwsiad agored  tuag at bobl o bob cefndir er cryfhau ac ail gynnau defnydd o’r iaith Gymraeg.

Rwyf wrth gwrs yn awyddus iawn i barhau i ddatblygu yn bersonol, gan gynnwys gwella safon fy Nghymraeg ysgrifenedig a fy nghymwysterau awyr agored, er mwyn fy mod yn fentor gwell ar gyfer y bobl ifanc y gobeithiaf y medraf eu hysbrydoli. Credaf fod gennyf nifer o’r sgiliau ymarferol perthnasol i weithredu yn unol a gofynnion swydd yn y maes awyr agored neu gwaith ieuenctid, ond mae gennyf yn ogystal y cefndir academaidd er mwyn darparu prosesau datblygiad i’r bobl y byddaf yn gweithio gyda.